Skip to content

Telerau ac Amoda

  1. Yr hyrwyddwr yw: Veg Power CIC
  2. Mae’r gystadleuaeth yn agored i breswylwyr y Deyrnas Unedig sy’n 16 oed neu’n iau, ac eithrio cyflogeion Veg Power ac ITV a’u perthnasau agos, ac unrhyw un sydd fel arall yn gysylltiedig â’r ymgyrch, y sefydliad neu’r broses o feirniadu’r gystadleuaeth.
  3. Nid oes yna ffi gofrestru, ac nid oes angen prynu dim i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
  4. Derbynnir cynigion trwy’r ffurflen sydd ar eatthemtodefeatthem.com yn unig; ni dderbynnir unrhyw gynigion trwy’r post, trwy e-bost na thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
  5. Dim ond un cynnig a dderbynnir gan bob unigolyn. Bydd cynigion lluosog gan yr un unigolyn yn cael eu gwahardd.  Pan fydd defnyddiwr yn gwneud sawl cais, y cais olaf bydd yn cael ei ystyried yn unig yn ddibynol ar yr amser anfon sy’n cael ei recordio ar system Veg Power.
  6. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yn cael ei restru ar fanylion y gystadleuaeth. Ar ôl y dyddiad yma ni fydd modd derbyn ceisiadau.
  7. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynigion na ddeuant i law am ba reswm bynnag.
  8. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn heb unrhyw rybudd yn achos trychineb, rhyfel, aflonyddwch sifil neu filwrol, gweithred gan Dduw neu unrhyw achos gwirioneddol neu ragweledig o dorri unrhyw gyfraith neu reoliad perthnasol, neu unrhyw ddigwyddiad arall y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr. Bydd yr hyrwyddwr yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n cymryd rhan am unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth, a hynny cyn gynted â phosibl.
  9. Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir am y wobr a roddir i unrhyw ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon.
  10. Y wobr yw’r hyn sy’n cael ei restru ar fanylion y gystadleuaeth.  Mae’r wobr fel y nodir, ac ni chynigir unrhyw arian parod nac unrhyw beth arall yn ei lle. Mae’r gwobrwyon yn anhrosglwyddadwy. Mae’r gwobrwyon yn dibynnu ar argaeledd, ac rydym yn cadw’r hawl i amnewid unrhyw wobr am wobr arall o werth cyfwerth heb roi rhybudd.
  11. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith y cynigion hynny sydd â’r ateb cywir, ac fe’u dilysir gan yr Hyrwyddwr a/neu ei asiantiaid.
  12. Rhoddir gwybod i’r enillwyr trwy e-bost cyn pen 28 diwrnod i’r dyddiad cau, a gofynnir iddynt nodi eu manylion ar ffurflen we i hawlio’r wobr. Os na ellir cysylltu ag enillydd, neu os na fydd enillydd yn hawlio ei wobr cyn pen 28 diwrnod i gael gwybod, rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd newydd.
  13. Dosberthir y wobr i’r cyfeiriad a ddarperir os darperir yr holl fanylion gofynnol (dosberthir i’r DU yn unig).
  14. Bydd penderfyniad yr hyrwyddwr mewn perthynas â phob mater sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol, ac ni eir i unrhyw ohebiaeth.
  15. Trwy gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth hon, mae’r cystadleuydd yn dangos ei fod yn cytuno i ymrwymo wrth y telerau ac amodau hyn.
  16. Llywodraethir y gystadleuaeth hon a’r telerau ac amodau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr, a bydd unrhyw anghydfodau yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
  17. Mae’r enillydd yn cytuno i’w enw a llun ohono gael eu defnyddio mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd, yn ogystal â’i gynnig. Bydd unrhyw ddata personol sy’n gysylltiedig â’r enillydd neu unrhyw gystadleuwyr eraill yn cael eu defnyddio’n unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol y DU yn unig, ac ni chânt eu datgelu i drydydd parti heb gael caniatâd y cystadleuydd ymlaen llaw.
  18. Bydd enw’r enillwyr ar gael 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cau trwy anfon neges e-bost i’r cyfeiriad canlynol: [email protected]
  19.  Nid yw’r hyrwyddiad hwn yn cael ei noddi, ei gymeradwyo na’i weinyddu mewn unrhyw ffordd gan, nac yn gysylltiedig â, Facebook, Twitter, Instagram nac unrhyw rwydwaith cymdeithasol arall neu gan ITV, Channel 4, Sky nac unrhyw bartneriaid neu gefnogwyr eraill i’r ymgyrch Bwytewch y Llysiau i’w Llethu. Rydych yn darparu eich gwybodaeth i Veg Power CIC ac nid i unrhyw barti arall. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio ar y cyd â’r Polisi Preifatrwydd canlynol a geir ar vegpower.org.uk.
  20. Bydd gan Veg Power yr hawl, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr ac ar unrhyw adeg, i newid neu addasu’r telerau ac amodau hyn, bydd newid o’r fath yn effeithiol yn syth ar ôl ei bostio i’r dudalen we hon.
  21. Mae Veg Power hefyd yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth os bydd amgylchiadau’n codi y tu allan i’w reolaeth.
Simply Veg Sun & Girl

SIMPLY VEG

Need to get your kids eating more veg?

Our only goal is to help parents and carers serve up affordable, simple food their families will love. We know that takes more than a few recipes, so we've got all the hacks and advice you'll need. Join now. It's 100% free and 100% simple.

*Required fields